Cyn i chi ddechrau

Pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr, efallai bydd y person yr ydych yn darparu gofal amdanynt yn stopio cael:

  • premiwm anabledd difrifol wedi'i dalu gyda'i budd-daliadau, os ydynt yn cael un
  • swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol wedi’i dalu gyda Chredyd Pensiwn, os ydynt yn cael un
  • gostyngiad Treth Cyngor, os yw eu cyngor lleol yn ei gynnig

Darllenwch fwy am sut mae Lwfans Gofalwr yn effeithio ar fudd-daliadau eraill

Bydd yr Uned Lwfans Gofalwr yn gwirio cofnod yr unigolyn yr ydych yn darparu gofal amdanynt cyn gwneud penderfyniad ar eich cais.

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y person yr ydych yn darparu gofal amdanynt am y wybodaeth hon cyn i chi ddechrau eich cais.