Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddeg i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Rydym yn defnyddio'r gwybodaeth hwn i wella ein gwasanaethau.
Gallwch darllenwch mwy am ein cwcis cyn i chi benderfynu.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK. (agor mewn tab newydd)
Mae'r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth Gwneud Cais am Lwfans Gofalwr yn unig, sydd ar gael yn www.carersallowance.service.gov.uk/ui-citizen-claim/allowance-benefits (agor mewn tab newydd) .
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet (agor mewn tab newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:
Os ydych chi'n cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr (agor mewn tab newydd) .
Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych chi am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch chi, ond cysylltwch â ni os bydd eu hangen arnoch mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, print bras, recordiad sain neu braille.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd (agor mewn tab newydd) .
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'ch helpu chi i gwblhau'r gwasanaeth yn bersonol.
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni (agor mewn tab newydd)
Mae DWP wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (agor mewn tab newydd) oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Efallai y bydd rhai dyfeisiau symudol a ddefnyddir yn y dull portread yn profi cynnwys neu ddolenni yn cael eu torri i ffwrdd ar dudalennau sy'n defnyddio cydrannau tabl. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.2 (ail-lifo).
Rydym yn bwriadu datrys hyn pan fyddwn yn datblygu gwasanaeth gwneud cais ar-lein newydd.
Mae problem ar rai tudalennau lle mae cwestiynau a ddatgelir yn amodol gyda botymau radio. Wrth ddefnyddio darllenydd sgrin ar y tudalennau hyn, mae rhifo'r botymau a ddatgelir yn amodol yn anghywir.
Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd), 2.4.6 (penawdau a labeli) a 4.1.2 (enw, rôl a gwerth) WCAG 2.2.
Byddwn yn datrys hyn pan fyddwn yn datblygu gwasanaeth gwneud cais ar-lein newydd trwy ddileu unrhyw gwestiynau amodol a ddatgelir, a dilyn dull un cwestiwn fesul tudalen.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 16 Medi 2024.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 16 Ebrill 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2.
Cynhaliwyd y prawf gan DWP, gan ddefnyddio profion awtomataidd â llaw.