Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud Cais am Lwfans Gofalwr

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae'r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth Gwneud Cais am Lwfans Gofalwr yn unig, sydd ar gael yn www.carersallowance.service.gov.uk/ui-citizen-claim/allowance-benefits.

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd defnyddio rhannau o'r gwasanaeth hwn:

  • Efallai na fydd meddalwedd darllenydd sgrin JAWS yn darllen pob pennawd tudalen yn Internet Explorer 11 - mae hwn yn fater hysbys gyda JAWS fersiwn 18 neu uwch,rydym yn argymell defnyddio porwr gwahanol i osgoi'r broblem hon.
  • Pecynnau llais JAWS - mae rhai lleisiau JAWS yn darllen y term ‘P45’ yn anghywir fel ‘45p’, mae hwn yn fater JAWS sy’n effeithio ar rai pecynnau llais yn unig
  • Meddalwedd adnabod lleferydd Dragon - ni fydd dolenni sy’n datgelu testun cudd ar dudalen yn ymateb i’r gorchymyn ‘cliciwch dolen’, ond byddant yn ymateb i ‘ cliciwch botwm ’ - mae hwn yn fater hysbys gyda chydran manylion System Ddylunio GOV.UK.

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth hwn

Os ydych chi'n cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.

Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych chi am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch chi, ond cysylltwch â ni os bydd eu hangen arnoch mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, print bras, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd (agor mewn tab newydd).

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'ch helpu chi i gwblhau'r gwasanaeth yn bersonol.

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae DWP wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Sut wnaethom ni brofi'r gwasanaeth hwn

Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 29 Gorffennaf 2020. Fe'i gwiriwyd i weld a yw'n cydymffurfio â WCAG 2.1 AA gan ddefnyddio profion awtomataidd a phrofion â llaw. Cynhaliwyd y profion gan DWP.

Paratowyd y dudalen hon ar 23 Medi 2020.